Mae holl gopïau’r rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo wedi’u gwerthu, wythnos ar ôl y gyflafan a laddodd 17 o bobol ym Mharis.

Cafodd 3 miliwn o gopïau eu hargraffu, a chafodd y cyfan eu gwerthu ar y bore cyntaf, ac fe ymddangosodd copïau ar y we am gannoedd o bunnoedd.

Mae lle i gredu y gallai nifer y copïau sy’n cael eu hargraffu godi i bum miliwn er mwyn ymateb i’r galw.

Mae clawr y rhifyn diweddaraf yn darlunio’r proffwyd Muhammad, ac mae wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd ac eithrio Ffrangeg.

Mae cangen o al-Qaida yn Yemen wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar swyddfa’r cylchgrawn.

Yn gynharach heddiw, galwodd arweinwyr Islamaidd am bwyll a heddwch wrth ymateb i’r cartŵn.

Dywedodd prif olygydd Charlie Hebdo fod y rhifyn diweddaraf wedi’i lunio “mewn poen a llawenydd”.

Tra bod hyd at 1,000 o gopïau o’r cylchgrawn ar gael mewn rhai siopau yng ngwledydd Prydain, mae WH Smith wedi cadarnhau na fyddan nhw’n ei werthu.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wneud datganiad yn y Senedd prynhawn ma ynglŷn â’r ymosodiadau wythnos ddiwethaf.