Map yn dangos lleoliad Mynydd Joffre Llun: PA
Mae Prydeiniwr ymhlith tri o ddringwyr sydd wedi marw ar ôl syrthio 600 metr tra’n dringo yng Nghanada.

Bu farw Neil McKenzie, 31, o’r Alban ynghyd a dwy ddynes ar ol gadael grŵp o ddringwyr eraill ddydd Sul i fynd i ddringo ar rew ar Fynydd Joffre, yn ol crwner British Columbia.

Pan fethodd y tri a dychwelyd aeth gweddill y grŵp i chwilio amdanyn nhw. Pan ddaethon nhw o hyd i gorff cafodd timau achub eu galw.

Cafwyd hyd i gyrff Neil McKenzie, ynghyd a Elena Cernicka, 35, o Ogledd Vancouver yng Nghanada a Stephanie Grothe, 30, o Vancouver, ddydd Llun.