Mae teigr ifanc wedi cael ei weld ar gyrtiau tenis a chae pêl-droed ar ôl dianc ger Disneyland ym Mharis.

Mae tref Montevrain, lle cafodd y teigr ei weld, ryw bum milltir i ffwrdd o’r parc antur poblogaidd.

Mae’r heddlu ac awdurdodau lleol wedi cael eu galw ac mae rhan o’r dref ar gau i’r cyhoedd.

Mae rhybudd i drigolion beidio mynd yn agos i’r dref ac i beidio cerdded yn yr ardal.

Dywed EuroDisney, sy’n rheoli Disneyland Paris, nad ydyn nhw’n berchen ar deigrod ac felly mae’r dirgelwch yn parhau.