Mae clybiau pêl-droed Barcelona ac Athletic Bilbao wedi cael caniatâd arbennig gan gynghrair Sbaen i wisgo cit cenedlaetholgar pan fydden nhw’n herio’i gilydd yfory.

Fe fydd Barcelona, y clwb mwyaf yng Nghatalonia, yn gwisgo eu cit ‘oddi cartref’ streipïog melyn a choch o dymor diwethaf, sydd yn efelychu baner y wlad.

Fe fydd tîm Bilbao o Wlad y Basg hefyd yn gwisgo cit fydd yn adlewyrchu’u baner genedlaethol, gyda chrysau gwyrdd, siorts gwyn a sanau coch.

Hon fydd y tro cyntaf erioed i Barcelona wisgo lliwiau baner Catalonia yn eu stadiwm gartref, y Nou Camp.

Gorymdaith enfawr

Echdoe roedd dwy filiwn o bobl yn gorymdeithio ar strydoedd Barcelona, ar ddiwrnod cenedlaethol Catalonia, yn galw am refferendwm ar annibyniaeth.

Fe ffurfiodd yr orymdaith siâp V ar hyd dwy stryd yn y ddinas, ac roedd rhai o chwaraewyr Barcelona gan gynnwys Gerard Pique a Xavi’n bresennol.

Mae’r gynghrair a’r dyfarnwr wedi dweud eu bod yn fodlon i Barcelona a Bilbao wisgo’r cit arbennig pan fydd y ddau dîm yn herio’i gilydd mewn gêm gynghrair ar ddydd Sadwrn.

Ond mae golygydd papur newydd AS ym Madrid wedi beirniadu’r penderfyniad, gan ddweud fod y ddau glwb yn “cymysgu gwleidyddiaeth a chwaraeon”.