Canol dinas Seattle
Mae dyn arfog wedi saethu person yn farw ac wedi anafu tri arall mewn prifysgol yn ninas Seattle yn America, cyn i fyfyriwr ymyrryd a’i rwystro rhag ail lwytho’r gwn.

Mae’n dilyn ymosodiad rai dyddiau’n ôl pan gafodd saith o bobol eu lladd mewn prifysgol ac ar ôl rhagor o alwadau am dynhau rheolau perchnogaeth gynnau yn yr Unol Daleithiau.

Bu farw dyn 19 oed ac fe gafodd tri pherson arall eu cludo i’r ysbyty, gan gynnwys un ddynes 20 oed sy’n dioddef o anafiadau difrifol, ar ôl yr ymosodiad ym Mhrifysgol Pacific Seattle.

Mewn cynhadledd newyddion heddiw, dywedodd y Prif Swyddog Cynorthwyol Paul McDonagh fod y dyn sydd yn y ddalfa yn 26 oed ac nad ydi o’n fyfyriwr yn y coleg.

Mae’r heddlu wedi dweud nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Saethu yn America

Mae’r ymosodiad yn dilyn cyfres o ymosodiadau tebyg mewn prifysgolion yn America.

Y mis diwethaf fe wnaeth Elliot Rodger ladd chwech o bobol, cyn lladd ei hun,  yn Isla Vista, Califfornia ac yn 2008 fe wnaeth cyn-fyfyriwr o Brifysgol , Oikos yn Oakland ladd saith o bobol.

Roedd yn honni ei fod wedi gweithredu am fod merched yn ei wrthod ac roedd wedi cael yr hawl i gario gynnau er gwaetha’ problemau iechyd meddwl.