Jacob Zuma - dechrau ar ail dymor yn Arlywydd
Mae Jacob Zuma wedi tyngu llw ar ddechrau ei ail dymor yn Arlywydd De Affrica.

Roedd arweinwyr o Nigeria, Zimbabwe a gwledydd eraill Affrica yn bresennol yn y gwasanaeth yn ninas Pretoria heddiw.

Ar Fai 7, fe enillodd plaid yr ANC yr etholiadau, gan barhau a’i chyfnod 20 mlynedd yn rheoli’r wlad.