Mae dyn wedi cerdded yn rhydd o garchar Death Row yn America, ar ôl treulio bron i 26 mlynedd dan glo.

Cafodd Glenn Ford, 64, ei ddedfrydu i farwolaeth yn 1988, ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio Isadore Rozeman, 56  – gweithiwr mewn siop emwaith a oedd yn arfer ei gyflogi yn achlysurol.

Ar ôl i dystiolaeth newydd ddod i law i brofi nad oedd Glenn Ford yn gyfrifol am lofruddio Isadore Rozeman, cafodd y cyhuddiad ei ddileu gan y barnwr Ramona Emanuel. Roedd Glenn Ford wedi gwadu’r cyhuddiad ar hyd y blynyddoedd.

Wrth gerdded drwy giatiau’r carchar yn Louisiana, dywedodd Glenn Ford:

“Mae’n teimlo’n dda. Mae fy meddwl yn mynd i bob cyfeiriad ar hyn o bryd, ond mae’n teimlo’n dda.

“Rwyf wedi cael fy ngharcharu am 30 mlynedd am rywbeth na wnes i wneud. Wna i byth gael y blynyddoedd yna’n ôl.”

Dywedodd cyfreithwyr Glenn Ford fod yr achos wedi cael ei ddylanwadu’n fawr gan “reithgor amhrofiadol a gan ddiffyg tystiolaeth ar adeg y drosedd.”

Mae cyfraith yn Louisiana yn nodi y dylai pobol sydd wedi treulio amser ar Death Row ac sy’n cael eu rhyddhau yn ddiweddarach, dderbyn iawndal.

Mae 83 o ddynion a 2 o ferched ar Death Row yn Louisiana ar hyn o bryd.