Dalai Lama
Mae China wedi gwylltio wedi i Arlywydd yr Unol Daleithiau gynnal cyfarfod ag arweinydd ysbrydol Tibet, y Dalai Lama.

Mae llywodraeth Beijing wedi cyhuddo America o “ymyrryd” ym materion cartref China, yn ogystal a’r berthynas rhwng y wlad a Tibet.

Ond mae’r Ty Gwyn wedi gwneud pwynt o bwysleisio nad cyfarfod rhwng dau bennaeth gwlad oedd y cyfarfod nos Wener.

Mae China, ar y llaw arall, yn ystyried y Dalai Lama yn “wrthwynebwr” sydd eisiau mwy o annibyniaeth i Tibet. Mae’r Ty Gwyn yn dweud mai “arweinydd crefyddol a diwylliannol” yw’r Dalai Lama – a’i fod yn ddyn heddychlon.