Viktor Yanukovych - mae arlywydd Yr Wcrain yn cael ei feirniadu am basio deddfau allai gyfyngu ar yr hawl i brotestio
Mae cannoedd o brotestwyr wedi mynd ben-ben â heddlu reiat ym mhrifddinas Yr Wcrain, wedi i lywodraeth y wlad basio cyfreithiau a allai rwystro gwrthdystiadau yn y dyfodol.

Fe ddechreuodd grwp o ymgyrchwyr radical ymosod ar yr heddlu yn Kiev gyda ffyn, gan geisio gwthio eu ffordd tuag adeilad llywodraeth Yr Wcrain.

Roedd nifer fawr o’r protestwyr yn gwisgo helmedau a masgiau nwy, ac roedden nhw’n taflu grenadau a fflêrs at yr heddlu, yn ogystal â chwistrellu cynnwys diffoddwyr tân atyn nhw.

Fe glywyd nifer o ffrwydriadau, ac roedd cymylau o nwy yn yr awyr. Roedd y protestwyr yn gweiddi “Gwarth!” a “Chwyldro!”

Fe geisiodd arweinydd yr wrthblaid yn Yr Wcrain, Vitali Klitschko, ddarbwyllo’r protestwyr i beidio ag ymosod ar yr heddlu, ond fe ddaeth yntau dan ymosodiad wedyn.