Papur y Detroit News yn adrodd am y ddamwain
Mae merch bedair oed wedi saethu ei chefnder o’r un oed mewn damwain ddychrynllyd yn yr Unol Daleithiau.

Roedd y ddau blentyn yn chwarae mewn ystafell wely mewn tŷ yn Detroit, Michigan ddoe ac fe allai’r achos gynyddu’r galw am fwy o reolaeth tros ynnau yn yr Unol Daleithiau.

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu lleol, roedd y plant wedi dod o hyd i’r gwn yn y stafell wely – roedd y reiffl wedi ei lwytho gyda’r ddyfais ddiogelwch heb ei gosod ac roedd mewn cas heb ei gloi.

Mae papurau lleol ardal Detroit yn dweud bod oedolyn yn y tŷ ar y pryd – taid y plant.