Baia Mare yn Rwmania
Mae dyn 47 oed o Brydain wedi marw ar ôl iddo ddisgyn o ffenest gwesty yn Rwmania, meddai’r heddlu.

Yn ôl adroddiadau roedd y dyn yn ddiplomydd yn Llysgenhadaeth Prydain a’i fod wedi lladd ei hun.

Bu farw’r dyn tua hanner dydd heddiw ar ôl cwympo o lawr uchaf y gwesty yn ninas Baia Mare.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod ymchwiliad ar y gweill.

Mae llefarydd ar ran Llysgenhadaeth Prydain wedi gwrthod gwneud sylw ynglŷn â’r adroddiadau yn y cyfryngau.