Protest arall gan ETA ym mis Awst 2012
Mae tua 100,000 o bobl wedi bod yn gorymdeithio drwy strydoedd Bilbao yng ngwlad y Basg i ddangos eu cefnogaeth i garcharorion ETA.

Maen nhw’n galw am i’r carcharorion gael treulio gweddill eu dedfrydau yng Ngwlad y Basg yn lle mewn rhannau eraill o Sbaen.

Er bod y protestwyr yn bloeddio enwau’r carcharorion yn uchel, dywed yr heddlu fod yr orymdaith yn un heddychlon. Roedd y trefnwyr wedi cael caniatâd gan farnwr i gynnal y brotest.

Mae’r mudiad ETA, sy’n defnyddio dulliau treisgar i frwydro dros annibyniaeth i wlad y Basg, wedi bod yn gyfrifol am ladd dros 800 o bobl ers diwedd yr 1960au.