China - rhaglen ofod (Llun PA)
Mae China wedi llwyddo i osod peiriant archwilio ar y lleuad – y wlad gynta’ i wneud hynny ers bron 40 mlynedd.

Fe fydd y peiriant yn anfon lluniau’n ôl o wyneb y lleuad ac mae’n arwydd arall o’r camau breision y mae China’n eu cymryd o ran archwilio’r gofod.

Yn ôl un o olygyddion ymgynghorol cylchgrawn arbenigol Jane’s, fe fydd y wlad yn herio’r Unol Daleithiau a Rwsia yn y blynyddoedd nesa’.

Fe adawodd y peiriant y Ddaear ar roced ar 2 Rhagfyr ac mae’n dod ddeng mlynedd ers i China anfon ei hastronot cynta’ i’r gofod.

Eu nod yw cael gorsaf ofod erbyn 2020 ac anfon person i’r lleuad wedyn.