Wrth i’r cyfrif ddechrau ar ôl etholiad cyffredinol Iwerddon ddoe, mae’n amlwg eisoes fod y blaid lywodraethol Fianna Fáil yn wynebu’r chwala wleidyddol fwyaf yn ei hanes.

Y rhagolygon ar hyn o bryd yw y bydd Fine Gael yn cael 36.1% o bleidleisiau dewis cyntaf, ei pherfformiad gorau ers dros 28 mlynedd.

Mae hyn yn golygu mai Fine Gael fydd yn arwain y llywodraeth nesaf ond na fydd ganddi fwyafrif llwyr dros bawb.

“Mae hwn yn symudiad anferthol,” meddai Garret FitzGerald, un o gyn arweinyddion Fine Gael a fu’n brif weinidog Iwerddon. “Y tro diwethaf i unrhyw beth fel hyn ddigwydd oedd dros 90 mlynedd yn ôl.”

Mae disgwyl y bydd y Blaid Lafur yn ail, gyda 20.5% – ac y bydd cefnogaeth Fianna Fáil yn disgyn i 15.1%, o gymharu â 42.% yn etholiad 2007. Fe ddaw’r gwymp yn eu pleidlais ar ôl i lywodraeth Brian Cowen orfod cael benthyciad gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol i achub y wlad rhag mynd dros y dibyn y llynedd.

“Dyw hi’n ddim syndod gweld daeargryn gwleidyddol ar ôl y daeargryn economaidd y llynedd,” meddai Dermot O’Leary, prif economegydd broceriaid stoc Goodbody yn Nulyn. “Beth bynnag fydd y canlyniad, dylai’r etholiad o leiaf gael gwared ar yr ansicrwydd gwleidyddol sydd wedi parhau cyhyd.”

Mae disgwyl y bydd Sinn Fein wedi gwneud yn well nag erioed gan ennill dros 10% o’r bleidlais.