Mae dyn a’i bedwar o blant yn farw, yn dilyn ffrwydriad yn un o ardaloedd Damascus.

Fe laniodd y bom ar gar y dyn oedd yn byw yn Jaramana. Yn ôl gweithwyr dyngarol, fe gafodd nifer o bobol eraill eu hanafu hefyd, yn cynnwys mam y plant.

Dyw hi ddim yn glir eto pwy daniodd y taflegrau i ganol yr ardal, a does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.