Damascus
Mae beth bynnag wyth o bobol wedi marw ar ôl i fom ffrwydro yng nghanol dinas Damascus, prifddinas Syria.

Yn ôl asiantaeth newyddion Sana, fe ffrwydrodd y ddyfais wrth fynedfa i adeilad ger Sgwâr Hijaz, ac fe gafodd dwsinau o bobol eu hanafu yn y digwyddiad.

Hyd yn hyn, does yr un grwp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.