Arlywydd Obama
Yn ystod ei ymweliad â De Affrica, bydd Arlywydd Obama a’i wraig yn cyfarfod aelodau o deulu Nelson Mandela. Ond ni fydd yn ymweld â Nelson Mandela ei hun. Mae yntau yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.

Dywedodd Arlywydd Obama nad oedd yn chwlio am gyfle i dynnu llun. Bydd y cyfarfod rhyngddo ef a’r teulu yn un preifat, cadarnhaodd y Tŷ Gwyn.

Mae rhai aelodau o deulu Mr Mandela wedi beirniadu’r wasg ryngwladol gan eu disgrifio fel fwlturiaid yn disgwyl am farwolaeth cyn Arlywydd De Affrica.

Tra ym Mhretoria bydd Arlywydd Obama yn cynnal trafodaethau gydag Arlywydd Jacob Zuma, ac mae disgwyl i fasnach a chydweithrediad rhyngwladol fod ymysg y pynciau a fydd yn cael eu trafod gan y ddau.

Mae Arlywydd Obama wedi talu teyrnged i Nelson Mandela gan ei alw yn “arwr ar gyfer y byd.”

Mi wnaeth y ddau gyfarfod yn ôl ym 2005, cyn i Mr Obama ddod yn Arlywydd.