Silvio Berlusconi
Mae cyn Brif Weinidog yr Eidal Silvio Berlusconi wedi ei gael yn euog o dalu am gael rhyw gyda phutain oedd o dan oed yn ystod parti yn ei dy, ac yna defnyddio ei ddylanwad i geisio celu’r digwyddiad.

Cafodd Berlusconi, 76, ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar a’i wahardd rhag dal swydd gyhoeddus am weddill ei oes.

Fe allai’r gwaharddiad ddod a diwedd i yrfa wleidyddol Berlusconi. Ond mae’n debyg y gall apelio cyn bod y ddedfryd yn derfynol.

Nid oes gan Berlsuconi rôl swyddogol yn llywodraeth bresennol yr Eidal ond mae’n parhau’n ddylanwadol yn y glymblaid gafodd ei ffurfio yn dilyn yr etholiad ym mis Chwefror.

Mae Berlusconi a’r ddynes o Foroco sydd yng nghanol yr helynt, wedi gwadu iddyn nhw gael rhyw gyda’i gilydd.