Silvio Berlusconi
Mae cyn brif weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, wedi ei ddedfrydu i flwyddyn o garchar ar ôl ei gael yn euog o gyhoeddi trawsgrifiad o sgwrs gyfrinachol yn un o’i bapurau newydd.
Ond mae’n annhebygol y bydd yn cael ei garcharu nes gwrando ar apêl yn erbyn y dyfarniad.
Clywodd llys ym Milan heddiw bod Berlusconi wedi trefnu i’r heddlu ddatgelu’r cofnod o’r sgwrs i bapur sy’n cael ei redeg gan ei frawd.
Roedd cyhoeddi’r sgwrs ynglŷn a gwrthwynebydd gwleidyddol yn anghyfreithlon, yn ôl y barnwr.
Er bod yr achos yn ergyd arall i enw Berlusconi, fydd y ddedfryd ddim yn effeithio ar ei hawl i geisio bod yn brif weinidog unwaith eto.
Mae’r broses o greu llywodraeth newydd yn parhau yn yr Eidal – doedd gan neb fwyafrif clir ar ôl yr etholiad diweddar.