Moscow
Mae dawnsiwr bale yn Theatr y Bolshoi yn Rwsia wedi cyfaddef trefnu ymosodiad asid ar gyfarwyddwr artistic y theatr.

Dywedodd heddlu Moscow mewn datganiad bod Pavel Dmitrichenko a dau o gyd-weithredwyr wedi cyfaddef  i gynllunio a gweithredu’r ymosodiad.

Dioddefodd Sergei Filin, cyfarwyddwr artistig y Bolshoi, losgiadau difrifol i’w lygaid a’i wyneb ar Ionawr 17 pan daflodd ymosodwr cudd jar o asid sylffwrig yn ei wyneb wrth iddo ddychwelyd adref. Mae’r cyn-ddawnsiwr 42 mlwydd oed yn dal i dderbyn triniaeth yn yr Almaen.

Tensiynau gefn llwyfan

Ymunodd Pavel Dmitrichenko â’r Bolshoi yn 2002 ac mae wedi dawnsio mewn nifer o berfformiadau mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys rhan Ivan The Terrible mewn bale o’r un enw yn ogystal â rhan y dihiryn yn Swan Lake.

Theatr y Bolshoi yw un o brif sefydliadau diwylliannol Rwsia ond tu ôl i’r llwyfan mae’r cwmni wedi cael trafferth gyda chynllwynio ac ymladd sydd wedi arwain at ymadawiad sawl cyfarwyddwr artistig dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae cydweithwyr Sergei Filin wedi dweud y gallai’r ymosodiad fod yn ddial am ddewis dawnswyr eraill ar gyfer rhannau mawr. Cyn iddo ddod allan o’r ysbyty yn Moscow dywedodd Sergei Filin wrth sianel deledu Rwsieg ei fod yn gwybod pwy orchmynnodd yr ymosodiad ond ni fyddai’n enwi’r person.