Stephen Fry
Stephen Fry fyddai dewis y rhan fwya’ o bobol fel y person y bydden nhw’n mwynhau peint a sgwrs gydag o, yn ôl arolwg diweddar.

Yr actor a’r meddwyn, Oliver Reed, ddaeth yn ail; gyda chyflwynydd y rhaglen geir Top Gear, James May, yn drydydd, a’r diweddar gyn-Brif Weinidog Prydain, Winston Churchill, yn bedwerydd ar y rhestr.

Fe fu 600 o bobol yn pleidleisio, ac un o’u rhesymau tros ddewis Stephen Fry oedd ei allu I gynnal sgwrs ddiddorol yn ogystal â gwneud iddyn nhw chwerthin.

Y merched gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau oedd Kate Middleton a Lady Gaga, y ddwy yn 11eg ar y rhestr, gyda Phrif Weinidog Prydain, David Cameron.