Ennis House, Los Angeles
Biliwnydd o’r enw Ron Burkle sydd wedi prynu adeilad unigryw Ennis House gan y pensaer, Frank Lloyd Wright – a hynny am oddeutu $4.5m.

Yn ôl cadeirydd yr Ennis House Foundation, Marla Felber, fe fydd y prynwr newydd yn parhau â’r gwaith sydd eisoes ar y gweill o sicrhau sylfeini’r ty concrid a godwyd yn 1924.

“Mae gan Mr Burkle hanes o adnewyddu a diogelu tai hanesyddol, ac rydan ni’n gwybod y bydd o’n stiward ardderchog ar Ennis House,” meddai.

Wedi’i ysbrydoli gan adfeilion yn Uxmal, Mecsico, mae Ennis House wedi ei godi â 27,000 blocyn o goncrid, gyda 24 math gwahanol o batrymau ar bob un. Mae’r olygfa o’r ty yn Los Feliz yn un drawiadol o Fryniau Hollywood.

Mae’r ty ei hun wedi ei ddefnyddio mewn sawl ffilm, yn cynnwys Blade Runner, House on Haunted Hill a Grand Canyon.