Y ddiweddar Dywysoges Margaret
Mae car prin a fu unwaith yn eiddo i’r Dywysoges Margaret a Burt Reynolds, wedi gwerthu am fwy na £21,000 heddiw.

Fe gafodd y limwsîn Rolls-Royce Silver Shadow Long-Wheelbase 1975 ei gynhyrchu yn ôl gofynion penodol y ddiweddar chwaer i’r frenhines bresennol a fu farw yn 2002. Yna, fe ddaeth yn ddiweddarach yn eiddo i’r actor Americanaidd, Burt Reynolds.

Mae’r drysau wedi eu leinio â lledr, mae’r goleuadau oren ar ochr y car wedi eu gweithio i mewn yn gynnil i addurniadau crôm, mae’r tu mewn yn groen buwch du i gyd, a’r corff wedi ei baentio’n goch.