Daeth Richard Branson i’r brig ymhlith y bosus gorau i weithio iddyn nhw mewn arolwg.

Fe holwyd dros 1,500 o oedolion gan arbenigwyr ysgrifennu CV, Cwmni Purple CV.

Roedd 34% o’r farn mai’r biliwnydd Richard Branson fyddai eu boss delfrydol.

Fe adawodd Richard Branson yr ysgol yn 15 oed, gan ddechrau sawl cwmni yn cynnwys Virgin Records and Virgin Atlantic, ac mae ganddo $5billion yn y banc.

Yr ail ar y rhestr oedd Syr Alan Sugar a gafodd 17.5% o’r bleidlais.

Yn drydydd roedd Mark Zuckerberg, gyda 16%, sef perchennog a sylfaenydd gwefan cyfryngau cymdeithasol Facebook.

Ar waelod y rhestr roedd Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump , gyda dim ond 1.8%, tra bod yr arwerthwr dadleuol, Sir Philip Green wedi cael 1.7% o bobl yn ei ffafrio.