Yn ei ail glip fideo o’r daith i Fienna i ddilyn tîm pêl-droed Cymru nos Iau ddiwetha’, Hydref 6, mae Gwion Williams yn dal y canu yn dilyn y gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Awstria.

‘We’re on our way back’ ydi’r gân, ac mae lleisiau cefnogwyr y dreigiaid yn gry’.

Ar eu ffordd yn ôl i Ewrop ac i lwyfan byd y bêl gron mae Cymru, wrth gwrs… nid ar eu ffordd adre’!

Gwion Williams hefyd sydd piau’r llun o hogia’ Dyffryn Nantlle ar daith.