Pinewood Studios Cymru
Hefin Jones sydd yn cymryd ei gipolwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu…

Stori dylwyth teg

Mewn oes a fu daeth dieithriaid i dasgu goleuni ar ein tir llwyd a’n harwain i ddyfodol o lewyrch nas gwelwyd ynghynt. A £31miliwn oedd anrheg Edwina Hart i Pinewood mor bell yn ôl â 2014 am hynny.  Byddai rhai wedi diflannu heb fŵ na be ond digon cwrtais ydynt i ddweud eu bod yn ystyried ei heglu hi. Tybed os oedd unrhyw beth yng nghytundeb Edwina am ad-dalu’r arian pe baent yn gwerthu safle Valleywood? Yntau a oedd y fath syniad y byddent yn dianc a gadael cragen fawr ddibwrpas, yn union fel y gwnaethant ar Ynys Manaw, yn rhy wallgo’ i’w grybwyll?

Gwaed newydd

Canys mae Pinewood Group PLC wedi penodi’r hynafol fanc Rothschild i adolygu eu hasedau. A’u hawgrymiad yw ‘gwerthu gwerthu gwerthu’. Gadawn i Andrew Smith, Cyfarwyddwr Corporate Affairs Pinewood PLC, esbonio popeth: “We have launched the strategic review because just about 80% of the company is owned by three shareholders and in order to continue to build on our successes we need to release more finance so we can market on the London Stock Exchange.” Ond debyg fod Edwina wedi taro bargen galed felly aros byddai gallaf.

Y cwestiwn mawr

Doethineb yn yr Uchel Lys wrth i John Beggs QC holi’r cwestiwn tyngedfennol i dad Cheryl James laddw… fu farw ym marics Deepcut. Onid oedd cywilydd ganddo y medrai’r ffwdan a achosodd drwy gwestiynu’r hunanladdiad honedig fod wedi medru amharu ar ymgeision yr heddlu i ddarganfod Milly Dowler?

Barn beryglus

Cododd Prevent ei ben cyfrifol eto wrth i’r heddlu ymweld â bachgen yn ei gartref wedi i’w athro benderfynu fod y bathodyn ‘Free Palestine’ ar ei gôt yn sicr yn croesi’r llinell. Cafodd rybudd gan plod, a benderfynodd ymhen hir a hwyr nad oedd yn derfysgwr, i beidio â siarad am Balestina yn yr ysgol.

Masnach deg

Byddai’r athro cyfrifol o bosib yn edmygu deddf newydd y Torïaid y bydd boicotio Israel gan gyrff cyhoeddus yn anghyfreithlon, a hynny heb fod angen trafodaeth na phleidlais yn y senedd na rhyw gybôl felly. Ond nid i Israel yn unig y daw budd – bydd hi’n anghyfreithlon i gynghorau, y Gwasanaeth Iechyd ac undebau myfyrwyr wrthod masnachu ag unrhyw gwmni ar egwyddor, gan gynnwys cwmnïau tybaco, olew neu arfau.

Caerdydd allan ohoni

Ond gwae. Sefydliadau Lloegr yn unig fydd yn methu peidio gwrthod Israel fodd bynnag gan fod y sectorau oll wedi eu datganoli. Er, nid dyna oedd ar eiriad y ddeddf newydd. Roeddent yn gwahardd boicotio gan sefydliadau gan ei fod yn “damage integration and community cohesion within the United Kingdom, hinder Britain’s export trade, and harm foreign relations to the detriment of Britain’s economic and international security.” Gwell peidio dweud wrthyn nhw.

Deall y rheolau

Felly ni fyddai cynghorau Gwynedd ac Abertawe’n wynebu ‘cosbau llym’… petaent heb wyrdroi eu polisi i beidio prynu gan Israel wedi i grŵp o’r enw Jewish Human Rights Watch fygwth llys. A beth yw goblygiadau anghyfreithloni boicot p’run bynnag? A fydd pawb yn prynu gan Israel rhag ofn, gan fwy neu lai orfodi cyrff cyhoeddus i gymryd eu nwyddau a’u tendrau oni bai eu bod yn medru profi nad ydynt cystal? Ai masnach rydd yw peth felly? Pwy a ŵyr. Y Torïaid, fel pencampwyr y TTIP, yw’r arbenigwyr.

Gwasanaeth diddiolch

Sôn am y pencampwyr, cwynodd Guto Bebb fod neb yn rhoi clod iddo am achub S4C rhag toriadau’r Torïaid, wedi iddo lwyddo’n oruwchnaturiol i berswadio ei fosys ei fod yn syniad cadw’u haddewid cyn yr etholiad. A gan fod neb arall wedi dweud bŵ na be lle oedd broliant ei gyd-Gymry? “Mi fyddai barddoniaeth ar Talwrn y Beirdd petai Rhun ap neu Adam Price wedi cael y maen i’r wal,” esboniodd.

Popeth yn costio

A sôn am anniolchgar, hwyr yw rhai busnesau i yrru eu biliau. Fel dinas Cleveland a yrrodd fil o $500 i rieni Tamil Rice, y bachgen 12 oed a saethwyd yn syth a dirybudd mewn parc gan heddlu yn 2014, am yr ambiwlans gariodd ei gorff i’r ysbyty’n ddibwrpas. Roedd hyn yn dilyn y ddedfryd nad oedd y swyddog wedi gwneud dim o’i le er bod y neges yn glir fod y galwr gofalus yn ochri mai tegan yr oedd yn ei ddal.

Bendigedigrwydd

I’r rhai sydd fyth wedi bod ddigon ffodus i dderbyn nodyn Y Goron yn hawlio’r tir o dan eich tŷ (ac roedd nifer cyn i drigolion annheyrngar Pwllheli godi’r fath ffwdan) dyma’r frawddeg bwysig. O dan enw eich tŷ a’i berchennog daw ‘Applicant for first registration of mines and minerals: The Queen’s Most Excellent Majesty in Right of Her Crown’. Er, wrth gwrs, cofrestru swyddogol yw hyn – hi a’i thylwyth sydd wedi ei berchen erioed ond eu bod ddigon clên i adael i chi wybod. Ac mae hi’n ben-blwydd eitha’ arbennig arni felly chwarae teg.

Gwanwyn Glanhau

Dim ond tri Aelod Seneddol o Gymru (neb fyddech yn ‘nabod) ymunodd â Michael Gove a Boris Johnson yn lansiad yr ymgyrch Clean For the Queen sy’n ein hannog oll i fynd allan a glanhau’r ynys fudr hon ar gyfer yr achlysur arbennig o’r Frenhines yn cyrraedd ei 90 oed. A dim ond pythefnos i fynd tan y penwythnos mawr o lanhau yn cychwyn ar 4 Mawrth. Ond cofiwch beidio â thaflu dim drwy ffenest y car am fis a hanner wedyn gan mai ar 21 Ebrill mae’r diwrnod mawr ei hun. Mae Cyngor Penarth yn syth i mewn wrth gwrs, ond dylech gofrestru o flaen llaw ar eu gwefan.

Cicia’i!

Ystadegau* eithriadol gan dafarnau Cymru yn datgan fod 5.7 gwaith mwy o bobl wedi mynd i’r bar wrth aros i Dan Biggar gymryd ei giciau na fu yn ystod hanner amser. Cicia hi bellach, Dan. Dan! Dan!
*heb eu cadarnhau.