Simon Cowell
Mae Simon Cowell wedi cael gwybod y bydd yn byw nes y bydd yn 95 mlwydd oed.

Mae’r dyn busnes 55 oed a chrëwr fformat Britain’s Got Talent ac X Factor, wedi talu am brofion gwaed yn America er mwyn ceisio rhagweld pryd y bydd yn marw… ac mae’r canlyniadau’n awgrymu bod ganddo 40 mlynedd ar ôl ar y ddaear hon, meddai.

Er ei fod yn ysmygu sigarennau, mae Simon Cowell yn credu mai’r hyn y mae wedi’i etifeddu gan ei rieni sydd i gyfri’ am ei hirhoedledd. Bu farw ei fam yn gynharach eleni.

“Ges i brawf DNA yn Los Angeles sy’n rhagfynegi pryd y byddwch chi’n marw,” meddai Simon Cowell wrth bapur newydd The Mirror heddiw. “Maen nhw’n cymryd eich gwaed a’ch DNA, ac yna’n rhoi darn o bapur i chi sy’n dweud pryd y byddwch chi’n marw.

“Yn amlwg, dydi’r prawf ddim yn cymryd i ystyriaeth y byddwch chi’n cael eich taro gan fws yfory, ond dw i’n mynd i fyw nes y bydda’ i’n 95 oed – sydd yn oedran da iawn.”