Mae pobol Y Bermo ym Meirionnydd yn wyliadwrus iawn, wedi i siarc peryglus gael ei olchi i’r lan yno y penwythnos hwn.

Pysgotwyr ddaeth o hyd i’r morgi trwynfain 10 troedfedd o hyd ar y traeth brynhawn dydd Gwener.

Ond mae nofwyr yn dal yn bryderus ynglyn â mynd i’r dwr ar ol deall ei fod o’n greadur sy’n ymosod ar bobol