Bashar Assad, arlywydd Syria
Mae beth bynnag chwech o bobol wedi’u lladd, yn dilyn ymosodiad gan lywodraeth Syria ar farchnad yng ngogledd y wlad.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad heddiw yn al-Bab ger Aleppo, dinas fwya’ Syria.

Mae disgwyl i nifer y bobol sydd wedi’u hanafu gynyddu’n sylweddol, wrth i luoedd y llywodraeth ymosod ar rannau eraill o’r ddinas hefyd – gan ganolbwyntio ar ardaloedd lle mae ei gwrthwynebwyr gryfa’.

Y gred ydi fod yr ymosodiadau diweddara’ hyn yn rhan o baratoadau’r Arlywydd Bashar Assad i feddiannu Aleppo.