Fe fydd newidiadau radical i’r pensiwn gwladol yn golygu y bydd hyd at hanner o bensiynwyr ar eu colled erbyn 2060, fe ddatgelwyd heddiw.
Fe fydd rhai ar gyflogau uchel a rhai sydd wedi mewnfudo yn ddiweddar ymhlith y rhai fydd yn cael eu heffeithio gan gynlluniau’r Llywodraeth i ddiwygio’r system bensiynau.
Dywed gweinidogion y bydd eu cynlluniau’n symleiddio’r system ac o fudd mawr i ferched, rhai sydd ar gyflogau isel, a’r hunangyflogedig.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys rhoi un taliad wythnosol i bensiynwyr newydd erbyn 2017, fyddai’n gyfystyr a £144 ar hyn o bryd.
Ond mae Papur Gwyn y Llywodraeth yn datgelu y bydd nifer o bobl ar eu colled.
O dan y system newydd fe fydd un ymhob pump o bobl sy’n cyrraedd oed pensiwn gwladol ar ôl 2017 ar eu hennill, llai nag un o bob 10 ar eu colled, ac ni fydd y gweddill yn gweld gwahaniaeth.
Ond fe fydd canran y rhai sydd ar eu colled yn cynyddu’n gyflym, gyda mwy na hanner y bobl sy’n cyrraedd oed pensiwn gwladol ar ol 2060yn colli mwy na £2.
‘Rhaid edrych yn ofalus ar y cynlluniau’
Dywedodd y Blaid Lafur bod 84,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn pensiwn uwch na’r lefel sy’n cael ei argymell gan y Llywodraeth.
Fe fydd pobl sy’n ennill pensiynau o’r fath yn colli hyd at £10 yr wythnos, yn ol y blaid.
Dywedodd llefarydd Llafur Owen Smith: “Fe fydd yn rhaid i ni edrych yn ofalus iawn ar y cynlluniau am fod ’na berygl y gall miloedd o bobl sy’n gweithio’n galed ar draws Cymru sydd wedi talu cyfraniadau gydol eu bywyd, ar eu colled.”