Mae ymchwiliad gan grŵp amlbleidiol o Arglwyddi wedi dweud na ddylai meddu ar gyffuriau anghyfreithlon a’u defnyddio fod yn erbyn y gyfraith.

Ychwanegodd y grŵp y dylai’r cyffuriau lleiaf niweidiol gael eu gwerthu mewn siopau trwyddedig.

Awgrymodd yr ymchwiliad y dylid cyflwyno trefn newydd ar gyfer profi diogelwch y  cyffuriau lleiaf niweidiol – gan gynnwys tybaco – cyn eu gwerthu.

Yn ôl argymhellion y grŵp, byddai’n rhaid i’r cyffuriau gynnwys rhybudd ar y pecyn.

Ychwanegodd y grŵp na ddylai pobl sy’n cael eu canfod ag ychydig o gyffuriau yn eu meddiant gael eu herlyn.

Ond dywedon nhw y dylid cosbi’r sawl sy’n cael eu canfod â chyffuriau mwy niweidiol yn eu meddiant.

Mae’r cynlluniau dadleuol yn sicr o gythruddo’r Prif Weinidog sydd wedi gwrthod galwadau gan Aelodau Seneddol i sefydlu comisiwn brenhinol i ystyried cyfreithloni cyffuriau anghyfreithlon.