Fe fydd cynlluniau ar gyfer newidiadau radical i’r pensiwn gwladol yn cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth heddiw mewn ymdrech i symleiddio’r drefn.

Ond mae ’na bryder y bydd y gallai’r newidiadau effeithio cytundeb ar gyfer pensiynau yn y sector cyhoeddus.

Mae cynlluniau’r Llywodraeth Glymblaid yn cynnwys rhoi un taliad i bawb erbyn 2017 fyddai’n gyfystyr a £144 ar hyn o bryd.

Dywed y Llywodraeth y bydd y drefn newydd yn symlach ac o “fudd mawr” i ferched, rhai sydd ar gyflogau isel, a’r hunangyflogedig, sydd ar hyn o bryd yn ei chael bron yn amhosib cael pensiwn gwladol llawn oherwydd y rheolau presennol.

Fe fydd hyd at 6 miliwn o weithwyr – y rhan fwyaf yn y sector cyhoeddus – yn gorfod talu mwy o Yswiriant Gwladol yn y dyfodol wrth i’r arfer o eithrio o’r ail bensiwn gwladol ddod i ben.

Mae undeb y GMB wedi rhybuddio y gallai gael effaith “ddifrifol iawn” ar gytundeb pensiwn i weithwyr yn y sector cyhoeddus tra bod y Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol (NPC) yn dadlau y bydd pensiynwyr yn y dyfodol yn derbyn llai o arian, yn gorfod talu mwy a gweithio’n hirach cyn cael eu pensiwn.