Mae gwobr o £10,000 yn cael ei gynnig i geisio dod o hyd i’r rhai a ymosododd  ar organydd wrth iddo fynd i’r eglwys ar noswyl Nadolig.

Bu farw’r pregethwr lleyg Alan Greaves, 68, yn dilyn yr ymosodiad arno yn High Green, Sheffield.

Roedd ar ei ffordd i’r eglwys ger ei gartref pan ymosodwyd arno yn ddidrugaredd. Bu farw o anafiadau difrifol i’w ben dridiau’n ddiweddarach.

Dywedodd Heddlu De Swydd Efrog heddiw bod yr elusen Taclo’r Taclau wedi cynnig gwobr o hyd at £10,000 i geisio dod o hyd i’r person, neu’r rhai oedd yn gyfrifol.

Mae’n ymddangos nad oedd unrhyw gymhelliad am yr ymosodiad, medd yr heddlu.

Fe fydd y wobr yn cael ei roi i unrhyw un  sy’n rhoi gwybodaeth i Taclo’r Taclau a fyddai’n arwain at arestio a dedfrydu’r person neu’r rhai oedd yn gyfrifol am farwolaeth Alan Greaves.

Cafodd dau ddyn eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Alan Greaves a’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu’n parhau i ymchwilio.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555111 neu drwy eu gwefan www.crimestoppers-uk.org