Jacintha Saldanha
Bydd angladd nyrs, wnaeth dderbyn galwad ffôn ffug gan ddau gyflwynydd radio o Awstralia, yn cael ei gynnal yn India heddiw.

Cafwyd hyd i Jacintha Saldanha, 46, oedd yn fam i ddau o blant o Fryste, gan un o’i chydweithwyr a swyddog diogelwch mewn fflatiau i nyrsys yn Ysbyty Brenin Edward VII yn Llundain ar Ragfyr 7.

Roedd Jacintha Saldanha yn nyrs yn Ysbyty Brenin Edward VII lle’r oedd Duges Caergrawnt yn cael triniaeth am salwch bore difrifol. Roedd wedi ateb galwad ffôn ffug gan y ddau DJ oedd yn dynwared y Frenhines a’r Tywysog Siarl er mwyn cael gwybodaeth am gyflwr iechyd y Dduges.