David Cameron
Mae David Cameron wedi rhybuddio golygyddion papurau newydd fod yn rhaid iddyn nhw weithredu “ar frys” i sefydlu corff annibynnol i oruchwylio’r wasg.

Bu’r Prif Weinidog yn cwrdd â golygyddion yn Rhif 10 heddiw i glywed cynlluniau ar gyfer y corff rheoleiddio newydd na fydd yn cael ei gefnogi gan ddeddfwriaeth.

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller eisoes wedi rhybuddio bod deddfwriaeth yn bosib, yn unol ag argymhellion adroddiad Leveson, os na fydd unrhyw gamau yn cael eu penderfynu.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi ei gwneud yn glir wrth y diwydiant bod “y cloc yn tician” i gytuno ar y camau nesaf.

“Mae’n rhaid iddyn nhw ei wneud mewn ffordd sy’n cwrdd â gofynion adroddiad yr Arglwydd Ustus Leveson yn union,” meddai David Cameron.

“Mae hynny’n golygu dirwyon o filiwn o bunnau, ymchwiliadau trylwyr i gwynion, ymddiheuriadau amlwg, a threfn rheoleiddio gadarn ac annibynnol.”

Mae David Cameron eisoes wedi son am ei amheuon ynglŷn â chyflwyno deddfwriaeth newydd i gefnogi’r corff rheoleiddio.

Ond mae’r Prif Weinidog dan bwysau gan y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, aelodau meinciau cefn ei blaid a dioddefwyr yr helynt hacio ffonau sy’n arwain ymgyrch yn galw am gyflwyno argymhellion adroddiad Leveson yn llawn.

Mae deiseb ar-lein gan y grŵp ymgyrchu Hacked Off wedi denu mwy na 135,000 o enwau rhai sydd o blaid cyflwyno deddfwriaeth i gefnogi’r corff newydd.