Fe fydd golygyddion papurau newydd yn mynd i Downing Street heddiw i esbonio pam eu bod yn gwrthwynebu argymhellion Adroddiad Leveson i gyflwyno deddfwriaeth newydd i oruchwylio’r wasg.

Fe fyddan nhw’n cwrdd â’r Prif Weinidog David Cameron a’r Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller er mwyn trafod creu corff newydd i oruchwylio’r diwydiant.

Ond fe rybuddiodd Maria Miller neithiwr y byddai eu methiant i gytuno ar gorff annibynnol i oruchwylio’r wasg yn gorfodi’r Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth i gefnogi’r corff.