Mae’n bosib y bydd Prydain yn mynd yn groes i gyngor llys yn Strasbourg ac yn parhau i wrthod rhoi pleidlais i garcharorion.

Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling yn gwrthwynebu rhoi’r hawl i garcharorion bleidleisio ond mae llys iawnderau dynol Ewrop wedi dweud fod gwadu hawl i garcharor gael pleidlais yn anghyfreithlon.

Mae’r llywodraeth yn ystyried opsiynau gwahanol sy’n cynnwys herio penderfyniad y llys yn Strasbourg gan agor y drws o bosib i geisiadau iawndal gan garcharorion, rhoi’r bleidlais i garcharorion ar ddedfrydau o lai na chwe mis, neu roi pleidlais i garcharorion ar ddedfrydau o lai na phedair blynedd.

Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder wedi mynnu mai Tŷ’r Cyffredin fydd â’r gair olaf ar y mater ac nid llysoedd Ewrop, ond mae wedi cael ei rybuddio y byddai mynd yn groes i gyngor y llysoedd yn Strasbourg yn gosod cynsail peryglus.

Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd Paul Flynn y byddai Prydain, wrth fynd yn groes i gyngor y llysoedd “ar fater cymharol ddibwys,” yn anfon neges “i wledydd gormesol yn Ewrop y gallan nhw gam-drin carcharorion.”