Arglwydd Ustus Leveson
Fe fydd adroddiad am ran gyntaf Ymchwiliad Leveson i safonau’r wasg yn cael ei gyhoeddi wythnos i heddiw.

Mae disgwyl i’r adroddiad gynnwys argymhellion yr Arglwydd Ustus Leveson ar reoleiddio’r wasg Brydeinig yn y dyfodol.

Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu gan David Cameron ym mis Gorffennaf y llynedd mewn ymateb i adroddiadau bod y News of the World wedi comisiynu ditectif preifat i hacio ffon y ferch ysgol gafodd ei llofruddio, Milly Dowler, ar ôl iddi ddiflannu yn 2002.

Roedd  rhan gyntaf yr ymchwiliad, a ddechreuodd ym mis Medi’r llynedd, yn edrych ar ddiwylliant, ymarferion a moeseg y wasg, ac fe fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi am 1.30yh ar 29 Tachwedd.  Bydd datganiad yn dilyn gan yr Arglwydd Ustus Leveson cyn i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Senedd.

Mae disgwyl i David Cameron wneud datganiad i Aelodau Seneddol ac fe fydd yr adroddiad yn cael ei drafod mewn manylder  ar 3 Rhagfyr.