Byddai’n rhaid i Alban annibynnol aros ei thro cyn ymuno gyda’r Undeb Ewropeaidd, meddai Gweinidog yn y Swyddfa Dramor.

Yn ôl Hugo Swire AS nid oes sylwedd i honiadau’r SNP y byddai’r Alban yn parhau yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd pe bai’n dod yn annibynnol.

Dywedodd Hugo Swire nad yw’r Swyddfa Dramor wedi trafod goblygiadau annibyniaeth gyda llywodraeth yr Alban am nad ydyn nhw am rag-dybio canlyniadau’r refferendwm yn 2014, ond dywedodd fod swyddogion yn Whitehall yn “dadansoddi’r materion cyfreithiol.”

“Nid yw annibyniaeth yn estyniad syml o’r drefn ddatganoledig sydd wedi gweithio mor dda,” meddai’r aelod seneddol Ceidwadol dros Ddwyrain Dyfnaint.

“Mae’n gam di-droi’n-ôl. Byddai’n creu gwladwriaeth newydd a fydd yn cymryd ei lle ar lwyfan rhyngwladol sydd eisoes yn llawn.

“Byddai’n rhaid i’r Alban ddechrau o’r newydd,” meddai.

Dywedodd Pete Wishart AS o’r SNP nad oes gwlad sy’n dymuno aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd erioed wedi cael ei “chicio allan.”

Ychwanegodd mai’r peryg mwyaf i ddyfodol yr Alban o fewn yr UE oedd yr ewro-amheuwyr ymhlith y Ceidwadwyr oedd yn barod i “guro eu llywodraeth eu hunain er mwyn tynnu allan o Ewrop.”