Fe all hyd at hanner miliwn o bobl anabl a’u teuluoedd fod ar eu colled o ganlyniad i system newydd Credyd Cynhwysol – gyda rhai yn honni y gallen nhw gael eu gorfodi o’u cartrefi o ganlyniad i’r newidiadau, yn ôl adroddiad.

Mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi bod yn arwain ymchwiliad i’r newidiadau ac yn dweud y bydd yn effeithio nifer o grwpiau penodol o bobl anabl. Fe fydd y Credyd Cynhwysol yn cymryd lle’r system fudd-daliadau a chredyd treth y flwyddyn nesaf.

Yn ol yr astudiaeth, fe fydd 100,000 o blant anabl yn colli hyd at £28 yr wythnos, a 230,000 o bobl anabl sydd heb rywun i ofalu amdanyn nhw yn derbyn rhwng £28 a £58 yn llai bob wythnos.  Fe fyddai 116,000 mewn perygl o golli tua £40 yr wythnos.

Ond dywed Llywodraeth San Steffan y bydd y newidiadau yn symleiddio’r system ac yn ei gwneud yn fwy teg.