Mae’n rhaid i Weinidogion fod yn fwy gofalus wrth benodi ymgynghorwyr arbennig a chymryd cyfrifoldeb llawn am eu gweithgareddau, yn ôl adroddiad newydd gan bwyllgor o Aelodau Seneddol.

Mae’r adroddiad yn dwyn y teitl Special Advisers in the Thick of It mewn cyfeiriad at y gyfres deledu ddychanol In the Thick of It ar y BBC.

Yn ôl cadeirydd y Pwyllgor Dethol Gweinyddiaeth Gyhoeddus a gyhoeddodd yr adroddiad, yr AS Torïaidd Bernard Jenkin, mae “mwy na gronyn o wirionedd” yn y gyfres.

Mae’r adroddiad yn pwyso ar weinidogion i fod yn gyfrifol am holl weithgareddau eu hymgynghorwyr, gan nodi’r ffaith nad oes unrhyw weinidog wedi ymddiswyddo dros ymddygiad ymgynghorydd, er gwaethaf rhai enghreifftiau “syfrdanol”.

Mae’n tynnu sylw penodol at achos Adam Smith a fu’n ymgynghorydd arbennig i’r Ysgrifennydd Diwylliant ar y pryd, Jeremy Hunt. Roedd wedi bod yn cysylltu’n helaeth ag un o lobiwyr News Corporation wrth i’r cwmni geisio ennill rheolaeth lawn ar BskyB, pryd roedd Jeremy Hunt i chwarae rhan gwbl ddiduedd.

Er i Adam Smith orfod ymddiswyddo, aeth Jeremy Hunt ymlaen i fod yn Ysgrifennydd Iechyd.

Dywed yr adroddiad hefyd fod angen proses dryloyw wrth benodi ymgynghorwyr o’r fath er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw’r cymwysterau a’r profiad priodol ar gyfer y gwaith.

“Ddylai ymgynghorwyr arbennig ddim bod yn gymeriadau amheus nac yn weision bach i wleidyddion,” meddai Bernard Jenkin.