David Cameron
Fe fydd David Cameron yn rhybuddio heddiw bod Prydain yn wynebu penderfyniadau anodd yn ystod cyfnod economaidd anodd.

Ni fydd  gwledydd yn ffynnu os ydyn nhw’n methu a gwneud y penderfyniadau cywir rŵan, mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud heddiw.

Fe fydd yn annerch cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Mirmingham ac mae disgwyl iddo bwysleisio unwaith eto y bydd yn cadw at ei gynlluniau i adfer yr economi er gwaetha’r rhagolygon ddoe bod yr economi yn crebachu.