George Osborne
Fe fydd y Canghellor George Osborne heddiw yn cyhoeddi ei fwriad i dorri £10 biliwn o wariant y wladwriaeth les.

Daw’r newidiadau ar ben toriadau o £18 biliwn mewn taliadau lles sydd eisoes ar y gweill. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn debygol o arwain at wrthdaro rhwng y Ceidwadwyr a’u partneriaid yn y Llywodraeth Glymblaid, y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond wrth annerch cynhadledd y Ceidwadwyr ym Mirmingham, fe fydd George Osborne yn dweud y dylai pobl gyfoethog  gyfrannu mwy tuag at geisio gostwng y diffyg ariannol ond na ellir gwneud hynny drwy ddibynnu ar y cyfoethog yn unig.