David Cameron
Mae geiriau David Cameron yn un o ddau ddatganiad sydd wedi’u gwneud ar ddechrau Cynhadledd y Ceidwadwyr er mwyn codi calon y ffyddloniaid.

Fe ddywedodd y Canghellor, George Osborne, hefyd ei fod yn gwrthod syniad y Democratiaid Rhyddfrydol o gael treth uwch ar dai drud.

Mewn cyfweliad gyda phapur y Sunday Telegraph, fe ddywedodd David Cameron yn byddai’n gwrthwynebu cynigion “gwarthus” i gynyddu cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cyfnod rhwng 2014 a 2020.

“Os bydd angen dweud ‘na’ wrth gynnig sydd heb fod er lles Prydain, yna fe fydda’ i’n dweud ‘na’,” meddai.

Mae hefyd wedi awgrymu dwy gyllideb ar wahân – un i’r 17 o wledydd sydd yn ardal yr euro, a chyllideb wahanol i’r deg arall.