Gorymdaith gan yr Urdd Oren
Mae miloedd o Unoliaethwyr wedi dechrau dod at ei gilydd er mwyn gorymdeithio chwe milltir trwy Belfast i Stormont i nodi canmlwyddiant Cyfamod Ulster, gafodd ei arwyddo yn 1912 i wrthwynebu Rheolaeth Gartref i’r Iwerddon.

Disgwylir hefyd y bydd miloedd yn rhagor yn gwylio’r orymdaith.

Arwyddo Cyfamod Ulster oedd sylfaen y drefn rannodd Iwerddon gan arwain at greu Gogledd Iwerddon ddegawd yn ddiweddarach.

Yr Urdd Oren sydd wedi trefnu’r orymdaith a dywedodd llefarydd eu bod yn disgwyl diwrnod “yn llawn hwyl”.

Dr David Hume yw cyfarwyddwr gwasanaethau yr Urdd a dywedodd “Fe fydd heddiw yn ddigwyddiad o bwys ac yn ddiwrnod i’r teulu yn llawn mwynhad a dathliadau. Yr ydym yn edrych ymlaen i groesawu pobl o bob cwr o Ogledd Iwerddon a thu hwnt.”

Ceisio Gwaharddiad

Ddoe, fe wnaeth yr Uchel Lys yn Belfast wrthod cais am waharddiad llys i atal yr orymdaith.

Roedd rhai o drigolion Pabyddol Carrick Hill wedi honni y buasai canu emynau unoliaethol wrth fynd heibio eglwys St Patrick yn yr ardal yn sicr o achosi trafferth.

Fe wnaeth y barnwr hefyd gyfyngu unrhyw brotest yn erbyn yr orymdaith i 150 o bobl.

Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi dweud y byddan nhw’n gweithio yn galed i sicrhau y bydd yr orymdaith yn heddychlon.

“Rwy’n gwybod mai dyma yw dymuniad y mwyafrif llethol ar draws pob cymuned,” meddai’r Prif Gwnstabl Matt Baggott. “Rwy’n gofyn am gydweithrediad llawn efo’r heddlu i gadw pawb yn ddiogel”.

Dywedodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers, ei bod hi yn parhau yn bryderus am yr hyn allai ddigwydd dros y Sul.

“Mae yna ymdrech enfawr wedi mynd i geisio sicrhau bod hyn yn achlysur all gael ei goffau mewn modd parchus a goddefgar,”meddai.