Raoul Moat
Mae’n bosib y bydd y plismon a gafodd ei saethu yn ei lygaid gan Raoul Moat yn siwio Heddlu Northumberland.

Yn ôl papur lleol, mae’r Cwnstabl David Rathband yn honni nad oedd ei gyflogwyr wedi rhoi gwybod iddo bod Moat wedi galw 999 a dweud wrth un o’r atebwyr ei fod yn “hela plismyn”.

Fe gafodd yr heddwas 42 oed ei saethu yn ei lygaid pan daniodd Moat at ei gar wrth iddo nesu at ddiwedd ei shifft.

Roedd y cyn-fownsar clwb nos eisoes wedi lladd partner newydd ei gyn-gariad ac wedi ei saethu hithau.

Mae David Rathband wedi sefydlu elusen i helpu aelodau o’r gwasanaethau brys sy’n cael niwed wrth wneud eu gwaith.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu Northumberland eu bod wedi derbyn llythyr gan gyfreithwyr y plismon.