Canghellor y Trysorlys, George Osborne
Cyhoeddodd y Canghellor George Osborne fod y llywodraeth ar fin cyflwyno deddfwriaeth i symleiddio rheolau cynllunio.

Dywedodd fod angen gwneud hynny i gyflymu’r gwaith o brosesu ceisiadau ac i hybu’r economi.

“Dw i’n meddwl y gallwn ni gyflymu’r broses o gynllunio,” meddai.

“Mae’n gwbl chwerthinllyd ei bod hi’n cymryd blynyddoedd i gael penderfyniadau cynllunio yn y wlad yma. All y wlad yma, yn yr amgylchedd economaidd presennol, ddim fforddio ag aros blynyddoedd am ddatblygiadau.”

Dywedodd y bydd gweinidogion yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio pwerau sydd ganddyn nhw eisoes i’w galluogi nhw i adeiladu ar dir Llain Las os yw tir o faint cyfatebol yn rhywle arall yn cael ei ddynodi fel rhan o’r Llan Las yn ei le.