Ian Brady a Myra Hindley
Cafodd angladd Winnie Johnson, mam Keith Bennett gafodd ei lofruddio gan Ian Brady a Myra Hindley, ei gynnal heddiw.

Roedd Winnie Johnson, 78, wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i geisio darganfod lle roedd corff ei mab wedi ei gladdu ar  Weundir Saddleworth.

Roedd Ian Brady a Myra Hindley wedi cipio a llofruddio Keith Bennett ym 1964 pan oedd yn 12 oed – roedd yn un o bump o blant sydd erioed wedi cael eu darganfod.

Er gwaethaf nifer o lythyron yn apelio ar Brady, 74, am help, mae’n parhau i wrthod datgelu’r manylion am le cafodd Keith Bennett  ei gladdu. Bu farw Hindley yn y carchar yn 2002 yn 60 oed.

Cafodd angladd Winnie Johnson  ei gynnal heddiw yn Eglwys St Chrysostom ym Mharc Fictoria ym Manceinion. Bu farw  ar 18 Awst yn dilyn brwydr hir gyda chanser.

Yn ystod y gwasanaeth bu’r Canon Ian Gomersall yn talu teyrnged i’w dewrder gan ddweud ei bod wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer.