Fe enillodd y Deyrnas Unedig fedal arian yn nigwyddiad olaf y Gemau Olympaidd.

Mae hynny’n golygu eu bod nhw yn y trydydd safle yn y tabl medalau, â 29 medal aur, 17 medal arian, ac 19 medal efydd.

Yr Unol Daleithiau sy yn y safle cyntaf â 46 aur, 29 arian, a 29 efydd. Mae China yn ail â 38 aur, 27 arian a 22 efydd.

Fe enillodd Tîm GB dair medal ar y diwrnod olaf. Fe aeth yr olaf o’r medalau aur i’r bocsiwr pwysau trwm, Anthony Joshua.

Fe gipiodd y bocsiwr pwysau welter o Gymru, Fred Evans, a’r seren pentathalon modern, Samantha Murray, fedalau arian.

Roedd medal aur Samantha Murray yn annisgwyl, a chyfaddefodd ei bod hi wedi ystyried rhoi’r gorau i gystadlu ychydig flynyddoedd ynghynt.

“Os oes gennych chi nod, rhywbeth yr ydych chi eisiau ei gyflawni mewn bywyd, ewch amdani,” meddai wedyn.

“Os ydw i’n gallu gwneud hynny, a fi’n ferch hollol arferol, fe allai unrhyw un wneud.”

Fe fydd Seremoni Cau’r Gemau Olympaidd am 9pm heno ma. Bydd y fflag yn cael ei drosglwyddo i Rio a fydd yn cynnal y Gemau yn 2016.

Bydd y Spice Girls, George Michael, y Pet Shop Boys, The Who, Jessie J a Tinie Tempah yn cymryd rhan.