Cynyddodd nifer y bobol diwwaith yng Nghymru 5,000 yn chwarter olaf 2010, cyhoeddwyd heddiw.

Datgelodd y ffigyrau bod mwy o bobol 16 i 24 oed allan o waith nag erioed o’r blaen ar draws Prydain.

Ledled Gwledydd Prydain mae nifer y bobol ddi-waith wedi cynyddu 44,000 i ychydig dan 2.5 miliwn.

Mae 8.4% o bobol Cymru bellach yn ddi-waith, a 7.9% yn ddi-waith ar draws Gwledydd Prydain.

Ond mae nifer y bobol rhwng 16 i 24 sy’n ddi-waith wedi cyrraedd 20.5%, yn dilyn cynnydd o 66,000 i 965,000 yn chwarter olaf 2010. Dyna’r canran uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1992.

Cynyddodd nifer y bobol ar y dôl hefyd, 2,400 ym mis Ionawr i 1.46 miliwn, .

Yn ogystal â hynny roedd 44,000 yn rhagor o bobol yn gweithio’n rhan amser am nad oedden nhw’n gallu dod o hyd i waith llawn amser, cyfanswm o 1.19 miliwn.

Roedd cwymp o 68,000 mewn cyflogaeth, i 29.12 miliwn, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cynyddodd diweithdra 5,000 yng Nghymru yn chwarter olaf 2010, cyhoeddwyd heddiw.

Datgelodd y ffigyrau bod mwy o bobol 16 i 24 oed allan o waith nag erioed o’r blaen ar draws Prydain.

Ledled Gwledydd Prydain mae nifer y bobol ddi-waith wedi cynyddu 44,000 i ychydig dan 2.5 miliwn.

Mae 8.4% o bobol Cymru bellach yn ddi-waith, a 7.9% yn ddi-waith ar draws Gwledydd Prydain.

Ond mae nifer y bobol rhwng 16 i 24 sy’n ddi-waith wedi cyrraedd 20.5%, yn dilyn cynnydd o 66,000 i 965,000 yn chwarter olaf 2010. Dyna’r canran uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1992.

Cynyddodd nifer y bobol ar y dôl hefyd, 2,400 ym mis Ionawr i 1.46 miliwn, .

Yn ogystal â hynny roedd 44,000 yn rhagor o bobol yn gweithio’n rhan amser am nad oedden nhw’n gallu dod o hyd i waith llawn amser, cyfanswm o 1.19 miliwn.

Roedd cwymp o 68,000 mewn cyflogaeth, i 29.12 miliwn, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ymateb

Dywedodd gweinidogion fod y ffigyrau yn brawf fod y farchnad lafur yn dechrau “sefydlogi” ar ôl “misoedd caled”.

Mae nifer y swyddi gwag bellach ar ei uchaf ers dwy flynedd, medden nhw.

“Mae’r cynnydd yn nifer y swyddi gwag yn galonogol ar ôl misoedd digon llwm,” meddai’r Gweinidog Pensiynau Chris Grayling.

“Yr her i ni nawr yw bwrw ymlaen â diwygio’r system budd-daliadau fel bod pobol yn rhoi’r gorau i hawlio budd-daliadau ac yn dechrau cymryd mantais o’r swyddi gwag.”

Dywedodd Paul Kenny, ysgrifennydd cyffredinol undeb GMB, nad oedd y cynnydd yn “syndod o gwbl”.

“Mae’r Llywodraeth ei hun, â chefnogaeth frwd y bancwyr a achosodd y dirwasgiad, yn mynd ati’n fwriadol i dorri swyddi yn y sector gyhoeddus.

“Mae degau o filoedd o weithwyr cyngor wedi colli eu swyddi, ac mae degau o filoedd o swyddi gwag wedi eu dileu.

“Hyd yn hyn mae undeb GMB wedi cyfri 162,000 o bobol sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i’r toriadau yn y sector cyhoeddus.”